Gall pwerdy achub dyfodol ffatri alwminiwm

Dechreuwyd yr ymgyrch o ddifrif i achub 540 o swyddi yn Anglesey aluminium pan ddatgelwyd cynlluniau heddiw am bwerdy yn costio £600 miliwn.

Mae'r penaethiaid eisiau adeiladu dwy ffwrnais yn llosgi coed er mwyn diogelu dyfodol y gwaith alwminiwm am yr 20 mlynedd nesaf.

Pe bae'r cynllun yn cael ei dderbyn, mi fydd y gwaith yn cymryd dwy mlynedd, gan greu 600 o swyddi adeiladu, ond mi fydd 460 o weithwyr yn y ffatri alwminiwm dal yn wynebu cael eu hymddiswyddo ym Medi.

Mae'r penaethiaid yn dweud os na cheir barged am ynni rhad, mi fydd rhaid cau'r ffatri dros dro, gyda dim ond 80 o staff i ofalu fod y ffatri mewn cyflwr gweithredol.

Dywedodd David Bloor, rheolwr gyfarwyddwr Anglesey Aluminium, fod y technoleg biomas a awgrymir yn newydd, ac nid oes pwerdai tebyg o'r un faint a awgrymir.

Dywedodd Mr Bloor ei fod wedi bod yn trafod bargen ynni newydd ers tair mlynedd, ac mai'r un meini tramgwydd o faterion cyfreithiol a masnachol sy'n codi bob tro.

Mi fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno'n swyddogol yng Ngorffennaf, a'r sefyllfa orau fuasai i'r cynllun cael ei gymeradwyo o fwen wyth mis, i adael i'r gwaith ddechrau yn y Gwanwyn.

Ond mae'n bosib i'r penderfyniad gymryd dwy mlynedd, a'r sefyllfa waethaf fuasai i'r Adran Ynni wrthod y cynllun, a allai olygu ymchwiliad cyhoeddus yn parhau am flynyddoedd.

Mae'r gwithwyr yn croesawu'r cynlluniau, ond maent yn ofni fod hyn yn rhy hwyr i achub eu swyddi. Dywedodd un ei fod yn bosib y bydd wedi bod allan o waith am bedair mlynedd cyn i'r pwerdy ddechrau gweithio, ac nad oes garanti y caiff ei swydd yn ôl.