Treth o 50 ceiniog ar ryngrwyd cyflymach

Mi fydd rhaid i ddefnyddwyr ffonau landline dalu treth o 50 ceiniog y mis am ryngrwyd band eang i sicrhau y bydd y gall cymunedau gwledig yng Ngogledd Cymru gael cysylltiadau rhyngrwyd cyflym.

Mi fydd y dreth o £6 y flwyddyn yn caniatau i ardaloedd gwledig fanteisio ar wasanaethau newydd y gallent fod hebddynt pe bae'r cwbl yn dibynnu ar y farchnad, dywedodd y Gweinidog diwylliant Ben Bradshaw neithiwr.

Datgelodd hefyd gynlluniau dadleuol i ddefnyddio rhan o gyllid y BBC i greu cynlluniau peilot, gan gynnwys un yng Nghymru, lle gall cwmniau cyfryngau greu consortiwm i ddarparu newyddion ar y teledu.

Mae'r cynlluniau i sicrhau cysylltiadau band eang cyflymach yn dod yn sgil ymrwymiad y llywodraeth y dylai pob cartref allu manteisio ar gysylltiad band eang dwy megabyte erbyn 2012.

Dywedodd y Prif Weinidog gordon Brown fod rhyngrwyd cyflym yn llawn mor hanfodol rwan ag y mae nwy, trydan a d?r, a dywedodd Peter Hain fod angen y dreth rhyngrwyd ar rent llinell ffôn, oherwydd ni fydd y farchnad ar ben ei hun yn gallu cyflawni'r cynllun i gael darpariaeth band eang i bawb.

Ond condemniwyd y cynllun gan lefarydd diwylliant y Ceidwadwyr, Jeremy Hunt, a dywedodd nad oedd angen am drethi newydd pan oedd chwyldroadau technegol yn y gorffennol, a dywedodd Adam Price ar ran Plaid Cymru nad oedd y cynllun yn ddigon uchelgeisiol.