Ail greu ffilm mewn chwarel yn Eryri

Scene from the original Clash of the Titans

Mi fydd ffilmio ffilm fawr o Hollywood mewn chwarel yng Ngogledd Cymru'nn debygol o ddod â £1.25miliwn i'r economi lleol.

Wythnos diwethaf bu paratoadau i ail-ffilmio Clash of the Titans yn chwarel Dinorwig.

Mi fydd y ffilmio'n dod a llawer o sêr y byd ffilmio, megis Sam Worthing, Liam Neeson, Gemma Arterton a Ralph Fiennes.

Talwyd £50,000 i First Hydro am ganiatau iddynt ddefnyddio'r tir, ac mi fydd hynny'n mynd at roi grantiau i achosion lleol. Dywedodd Tony Thomas o'r cwmni ei fod wedi rhoi'r amod fod rhaid i Warner Brothers logi gwasanaethau gan gwmnïau lleol, ac er fod First Hydro'n derbyn llawer o ofynion am ddefnyddio'u chwarel i ffilmio, byddent fel arfer yn gwrthod os nad oes budd i'r ardal.

Mae'r ffilm yn dilyn anturiaethau Perseus yn ymladd yn erbyn Medusa a'r Kraken yn ei gais i achub y dywysoges Andromeda.

Mi fydd y ffilmio'n dechrau mewn mis ac mi fydd yn parhau am 10 diwrnod. Mi fydd Warner Brothers hefyd yn ffilmio yn Tenerife, ac yn Niwbwrch ym Môn.