Cynnydd mewn prisiau petrol

Fuel prices

Bu cynnydd mewn pris petrol o geiniog yr wythnos, gyda gyrrwyr yng Ngogledd Cymru'n talu mwy na gweddill y deyrnas Unedig.

Mae'r prisiau wedi cynyddu pum ceiniog yn y mis diwethaf, a'r cyfartaledd pris petrol yn y Deyrnas Unedig yw £1.02 y litr, ond yng Ngogledd Cymru mae hyn yn agosach at £1.05, ac mae rhai llefydd yn codi £1.08. Yn Ionawr 97 ceiniog y litr oedd pris petrol ar gyfartaledd drwy'r DU.

Ond disgwylir i brisiau petrol godi i dros £1.10 y litr erbyn diwedd yr haf, gan leihau'r gwahaniaeth prios rhwng petrol a diesel.

Credir fod cwmnïau tanwydd yn cymryd mantais o ofnau dros y sefyllfa gwleidyddol yn Iran i godi prisiau pan nad oedd gwir angen.

Dywedodd Luke Bodset o'r AA, nad oedd gwir reswm i gwmnïau godi prisiau. Mae'r galw am danwydd wedi gostwng oherwydd y sefyllfa economaidd, ac mae'r cwmnïau'n codi prisiau ar beth maent yn ddisgwyl fydd gwerth tanwydd ymhen rhai misoedd, sy'n sefyllfa wirion.

Dywedodd Michael Learmond o'r North Wales Federation of Small Businesses mai dreth a hawlir gan y llywodraeth yw'r rhan fwyaf o'r pris petrol, ac mi fydd rhaid rhoi pwysau ar y llywodraeth os fyy y prisiau'n parhau i gynyddu.