Gyrrwr tacsi'n ofni ei fod am gael ei ladd

Taxi driver attack

Bu gyrrwr tacsi'n ofni ei fod am farw pan ymosodwyd arno yn hwyr yn y nos gan gwsmer a oedd yn ceisio dwyn ei arian, ac ers hynny mae'n rhy ofnus i weithio yn y nos.

Digwyddodd yr ymosodiad yn oriau mân bore Sul pan oedd yn mynd â dau ddyn o Broadway Boulevard yn Llandudno i Lanrwst.

Gafaelwyd yn ei wddf o'r cefn, a dechreuodd y cwsmer ei dagu, nes oedd bron yn llewygu.

Dyma'r ail ymosodiad ar yrrwr tacsi o Landudno mewn ychydig fisoedd, a dywedodd y gyrrwr fod rhaid i yrrwyr fod yn wyliadwrus.

"Roeddent wedi talu hanner y ffi i Lanrwst, ac addawont y buasent yn talu'r gweddill pan gyrhaeddont yno.

"Roeddent yn sgwrsio ar y ffordd yno ac roedd popeth i'w weld yn iawn, ond pan stopiais yn y sgwâr, neidiodd un ohonynt allan a rhedodd heb dalu.

"Cloais y drws fel na allai fynd allan, a dywedais wrtho fod rhaid iddo dalu."

Wedyn ymosododd y cwsmer arnio, gan alw am yr arian oedd gan y gyrrwr, a gyrrodd y gyrrwr i gyfieiriad Betws-y-Coed cyn slamio'r brêcs yn galed, ac wedyn neidiodd y cwsmer allan, a daeth ei gyfaill.

Daeth diwedd i'r hunllef pan ddaeth ambiwlans heibio, a rhedodd y ddau ddyn i ffwrdd.

Ar y funud nid yw'r gyrrwr tacsi eisiau gweithio yn y nos, ond dywedodd y bydd rhaid iddo ddychwelyd i weithio yn y nos oherwydd mai dyna'r amser pan fydd yn gwneud y rhan fwyaf o'i fywiolaeth.