Anrheg gorau i dad

Ddoe derbyniodd Lee Bailey yr anrheg Sul y Tadau gorau eirioed, pan gofleidwyd gan ei ferch Megan.

Mae'r ferch fach saith oed o'r Rhyl bron yn ddall ac mae ganddi anableddau corfforol a deallusol, ac mae ganddi trafferthio cyfathrebu, ond mae hi wedi datblygu i'r raddau y gallai ddangos ei chariad.

Mae hi wedi gweithio allan sut i gofleidio aelodau o'i theulu a gweithwyr cefnogaeth.

Dywedodd ei mam nad oes problem gyda llygaid Megan, a'i bod yn gallu gwahanu rhwng goleuni a chysgod, ond mae ganddi drafferthion cerdded ac mae hi mewn cadair olwyn.

Darganfuwyd fod problem mewn sgan cyn i Megan gael ei geni, ac daeth hyn yn fwy amlwg pan na ddatblygodd yn y modd arferol yn ystod ei phlentyndod.

Ers i'r teulu symud i'r Rhyl dair mlynedd yn ôl bu Megan yn mynychu Ysgol Tir Morfa, sy'n dysgu plant gyda anghenion arbennig. Mae hefyd yn derbyn cymorth gan arbenigwr o Sense, yr elusen i bobl ddall a byddar, ac mae'n dysgu'r system cyfathrebu Makaton, sy'n defnyddio arwyddion i gyfleu geiriau allweddol.

Mi fydd Sense yn cynnal digwyddiadau arbennig wythnos yma i godi ymwybyddiaeth o drafferthion a wynebir gan bobl dall a byddar, gan gynnwys digwyddiad yn Ysgol Esgob Morgan ar ddydd Sadwrn, am hanner dydd, gyda barbeciw, stondinau a gêmau.