Jun 22 2009
Mae tenantiaid yn cwyno y gallent fod wedi marw mewn tân bwriadol oherwydd nad oedd yr alarwm mŵg yn gweithio.
Bu rhaid i 16 o bobl ffoi o'r tân mewn bloc o fflatiau yn Grenadin Close, Brynteg, Wrecsam, ar ôl i rywun roi soffa ar dân tu allan i'r adeilad tua 2.30 yn y bore.
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn gweneud archwiliad, a chredir fod mintai o fandaliaid wedi bod yn dechrau nifer o danau, oherwydd bu tân arall yn Rockwood Road a llosgwyd sied yn Quarry Road yr un noson.
Bu angen am ocsigen ar o leiaf pump o bobl yn Grenadin Close, ar ôl anadlu mŵg, a bu rhaid ail-gartrefu un tenant wrth i'r mŵg lenwi chwe fflat.
Dywedodd Andy Robb swyddog diogelwch tân y gallai'r tanau fod wedi achos marwolaeth, ac apeliodd i unrhyw berson gyda gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.
Dywedodd rhai o'r tenantiaid eu bod wedi eu deffro gan fŵg, ac nid oedd yr alarwm yn gwithio. Roedd yr alarwm wedi ei roi i ffwrdd oherwydd nam, ac yn disgwyl cael ei atgyweirio.