Fe all 1,500 o gleifion o Ogledd Cymru dderbyn llawdriniaeth mewn ysbytai preifat er mwyn i'r GIG allu cyflawni targedau amser disgwyl.
Fe all cleifion dderbyn triniaeth gan ysbytai Spire yn Wrecsam, Swydd Gaer, Glannau merswy a Manceinion, dan yr un meddygon a gyflogir gan y GIG.
Mae rhai meddygon blaenllaw yn ofni fod hyn yn golygu pwmpio arain i mewn i'r sector breifat yn hytrach na buddsoddi yn y GIG.
Roedd y Cynulliad wedi gorchymyn i'r GIG drefnu cyn rhagfyr na fydd neb yn gorfod disgwyl mwy na 26 wythnos cyn dechrau trinaeth.
Cyfaddefodd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru y bu rhaid iddynt ddefnyddio ysbytai preifat i ddal i fyny, ac er fod hynny'n ddrytach, roeddynt yn hyderus y byddent yn gally cyflawni'r targedau gyda'r adnoddau presennol pan fyddent wedi lleihau'r rhestr disgwyl i'r maint derbyniol, ac nid oedd angen adeiladu mwy o theatrau llawdriniaeth pan na fydd eu hangen yn y tymor hir.
Dywedodd Andrew Dearden o'r British Medical Association Wales, fod gyrru cleifion i ysbytai preifat yn mynd i fod yn gostus, ac mai cwtogi ar welyau, ac adeiladu ysbytai llai yw'r rheswm pam fod rhestrau disgwyl mor hir yn y lle cyntaf.