Gweithdy'n cael ei ddinistro gan ffrwydriad peiriant gwefru batris

Llosgwyd sied ar ôl i beiriant gwefru batris ffrwydro, pan adawodd y perchenog ei offer i wefru dros nos.

Dechreuwyd y tân pan oedd Michael Jones yn cysgu yn ei gartref, tua milltir i ffwrdd o'r sied ym Mlaenau Ffestiniog.

Dywedodd Mr Jones y bydd rhaid iddo gael hyd i le newydd i'w fusnes gwneud cerrig beddau.

"Roeddwn wedi bod yn gwefru batri yn y sied. Cefais alwad gan y brigâd dân am 20 munud i un y bore. Roedd y gwefrydd batri wedi tanio a ffrwydro. Mae'r sied wedi ei ddinistro."

Llosgwyd llawer o beiriannau yn y sied.

Mae'r gwasanaeth tân yn rhybuddio pobl i ddilyn cyfeiriadau'r gwneuthurwyr pan maent yn gwefru offer.