Wynebodd un o gorau mwyaf enwog yng Nghymru lawer o hwtian a curo dwylo'n araf, oherwydd cwyn fod eu harweinydd yn siarad "gormod o Gymraeg".
Gorffenwyd perfformiad gan gôr Ysgol Glanaethwy, a fu ar rownd derfynol Last Choir Standing, mewn ffars wrth i siaradwyr Saesneg gwyno nad oeddynt yn deall y cwbl a ddywedwyd.
Clywodd Cefyn Roberts, arweinydd y côr, yn yr egwyl gan staff y theatr nad oedd rhai o'r gynulleidfa'n hapus amdano'n defnyddio cymaint o Gymraeg yn y cyngerdd yn Venue Cymru, Llandudno.
Pan ddechreuodd ymddiheuro ar ddechrau ail ran o'r perfformiad, bu clapio araf gan bobl ddi-Gymraeg yn y gynulleidfa, tra roedd siaradwyr cymraeg yn hwtian, am nad oeddynt yn hapus am y pwysau a roddwyd arno.
Dywedodd Mr Roberts neithiwr ei fod wedi ei siomi gan agwedd y ddwy ochr. Fel arfer mae'n siarad i'r cynulleidfa'n gyfangwbl yn y Gymraeg pan mae'n arwain y côr, ond oherwydd ei fod mewn theatr fwy, defnyddiodd dipyn o Saesneg, er nad oedd hyn yn gyfieithiad uniongyrchol.
Roedd wedi cael ei siomi fod cwyn am ormod o Gymraeg mewn rhan Gymreigaidd o'r byd.
"Roeddem wedi croesawu pawb yn ddwyieithog. Canasom o leiaf chwe cân Saesneg, a siaredais o leiaf saith gwaith yn Saesneg."
Cafodd ymddiheuriadau gan lawer o siaradwyr Saesneg a oedd yn teimlo cywilydd fod y côr wedi gorfod dioddef y fath brotest, a dywedodd un aelod Cymraeg o'r gynulleidfa, Dafydd Thomas o Ynys Môn, fod hi'n "warthus" fod cwynion wedi bod.
Mae Venue Cymru'n archwilio'r digwyddiad ar ôl i Mr Roberts ofyn iddynt wneud eu polisi iaith yn fwy eglur.