Mae mamau dau filwr o'r Welsh Guards yn Affghanistan wedi datgan eu hofnau y gall eu meibion fod y rhai nesaf i gael eu lladd yno.
Soniodd Gina Hill, o Brestatyn, a Maria Dawson, o Fae Cinmel, am eu pryderon ar ôl i'r nifer o farwolaethau milwyr yn Affghanistan godi i tua un bob tri diwrnod.
Mae mab Gina, Richard yn yrrrwr gyda'r ail gwmni, tra mae Karl Evans, mab Maria, yn yrrwr a gweithiwr radio gyda'r trydydd cwmni. Mae'r ddau yn nhalaith Helmand, ac mae'r ddau wedi bod mewn brwydrau tra yn Affghanistan.
Dywedodd Maria: "Rwy'n poeni. Mae'n ofnadwy pan ydych yn clywed am filwyr yn cael eu lladd a'u hanafu yno. Rydych yn ofni mai'ch mab fydd y nesaf.
"Tydych ddim yn clywed ganddynt pan maent yn patrolio. Ar y gorau rydych yn clywed ganddynt unwaith bob tair wythnos."
Mae hi hefyd yn poeni am yr effeithiau seicolegol ar ei mab hefyd, gan gofio pan oedd Karl adref o Irac: "Rwy'n siwr fydd Karl yn well pan ddaw adref o Affghanistan, oherwydd ei fod wedi gwneud hyn o'r blaen, ond pan ddaeth adref o Irac roedd yn cerdded i lawr y stryd yn cadw golwg allan am gelsaethwyr, neu fydd yn edrych at y nenfwd ac yn gwneud sŵn rhyfedd.
"Mae'n cymryd amser hir iddynt ddod i arfer gyda bywyd normal. Mae'n cael effaith ddifrifol arnynt."
Dywedodd Dave Webb o'r Welsh Guard Association: "Rydym yn ceisio helpu teuluoedd y milwyr oherwydd rydym yn deall eu bod yn mynd drwy gyfnodau anodd ac yn poeni. Y peth pwysicaf yw eu bod yn gefnogol i beth mae eu plant yn ei wneud."