Ysgol yn addasu i alluogi merch anabl i ddod yno

Mae merch a adalwyd wedi ei pharlysu ar ôl damwain car a laddodd ei chwaer, wed ennill brwydr i fedru mynd i'r ysgol uwchradd gyda'i ffrindiau.

Gadawyd Chelsea Parry, 11 oed o Gemaes, yn ddibynol ar gadair olwyn ar ôl y ddamwain ar yr A5025 ar Ynys Môn, pan oedd hi'n chwech oed, yn 2002, pan laddwyd ei chwaer Jade.

Dwy mlynedd yn ôl cafodd y newyddion siomedig gan benaethiaid addysg na fyddai'n cael mynd i'r un ysgol â'i brawd Connor, 15 oed, chwaer Paige, 13 oed, a'i ffrindiau o'r ysgol gynradd.

Nid oedd Ysgol Thomas Jones, yn Amlwch, yn addas i gadeiriau olwyn, felly mi fydd rhaid iddi fynd i Ysgol Bodedern.

Ar ôl i'r teulu fygwth dechrau achos llys mae Cyngor Ynys Môn wedi gwario £150,000 i wneud yr addasiadau angenrheidiol i'r ysgol, ac mi fydd Chelsea'n gallu mynd yno ym mis Medi.

Dywedodd ei thad, John Parry: "Roedd hi eisiau mynd i'r un ysgol lle aeth Jade, a lle mae ei brawd a'i chwaer a'i ffrindiau. Roedd wedi dweud os na chai fynd yno, ni fyddai eisiau mynd i ysgol o gwbl.

"Mi fydd ganddi bobl sydd yn ei hadnabod a fydd yn gofalu amdani. Mae hi wedi dioddef llawer ac mi fydd yn haeddu hyn."

Nid Chelsea fydd yr unig blentyn i fanteisio ar yr addasiadau, oherwydd fydd Shelby Watson, sydd yn dioddef o barlys yr ymennydd hefyd yn dechrau yn nhymor yr Hydref.