Domestic abuse
Mae ystadegau dychrynllyd wedi eu datgelu yn dangos pa mor ddifrifol yw'r broblem o gam-drin yn y cartref gyda mwy na 11,000 o ddigwyddiadau yng Ngogledd Cymru wedi eu hysbysu i'r heddlu llynedd.
Yn ôl yr ystadegau a ryddhawyd gan Heddlu Gogledd Cymru bu mwy na 30,000 o achosion o ymosodiadau neu fygythiadau yn y cartref dros y tair mlynedd nesaf, sef un i bob 25 person yn byw yn y rhanbarth, ond llynedd by cynnydd o 1,200 yn y nifer o achosion.
Mae Womern's Aid yn dweud fod yn aml plant yn cael eu cam-drin, neu'n gweld y cam-drin pan mae oedolion yn cael eu cam-drin, ac mae'n galw am wersi gorfodol i blant ysgol ar y mater, fel modd o daclo'r broblem yn y dyfodol.
Yn ôl llefarydd ar ran Wales Domestic Abuse Helpline, mae'r ffigyrau'n achos pryder, oherwydd mae'n wybyddus nad yw dioddefwyr cam-drin domestig yn tueddu i hysbysu'r broblem gymaint ag y dylient. Fel arfer mi fydd dynes wedi dioddef tua 35 o ymosodiadau cyn iddi wneud cwyn i'r heddlu.
Dywedodd Chris Hayes o Women's Aid: "Rwy'n gobeithio y caiff pobl sioc o glywed am raddfa'r broblem. Nid yw'n syndod i ni oherwydd rydyn yn gweithio gyda dioddefwyr pob dydd, ond mi fydd yn sioc i bobl eraill am fod hyn yn broblem cudd."
Mae Women's Aid yn rhedeg 10 o lochesi yng Ngogledd Cymru i ferched sy'n ffoi o drais.
Mae llinell gymorth ddwyieithog, am ddim y Wales Domestic Abuse Helpline ar gael ddydd a nos ar 0800 80 10 800, ac yn hollol gyfrinachol.