Mi fydd gorymdaith i gofio am farwolaeth ddau ddyn a oedd yn bwriadu gosod bom cyn arwisgo'r Tywysog Siarl 40 mlynedd yn ôl.
Dyma'r tro cyntaf mewn degawd i farwolaeth Alwyn Jones, 22 oed, a George Taylor, 37, gael ei gofio'n gyhoeddus.
Galwyd y ddau'n "Ferthyron Abergele" pan fuont farw wrth i fom ffrwydro cyn yr amser penodedig. Credi mai eu bwriad oedd dinistro'r rheilffordd yn Abergele cyn i'r tywysog deithio i Gaernarfon, i'r arwisgiad.
Mi fydd dwsinau o wladgarwyr Cymraeg, yn cario baneri duon, ac yn cael eu harwain gan y Liverpool Irish Patriots Republican Flute Band yn gorymdeithio yn Abergele ar ddydd Sadwrn i gofio 40 mlynedd ers y marwolaethau.
Mi fydd y digwyddiad yn cael ei drefnu gan Adam Philips o Balchder Cymru, a dywedodd na fyddent yn mynd i fynwent Eglwys St Mihangel i osod torch wrth fedd George Taylor, mewn parch at ddymuniadau'r teulu.
Cynhaliwyd y gorymdeithiau bob blwyddyn o 1970 i 1999, ond terfynwyd nhw pan gwynodd Jennie, merch George Taylor fod rhai pobl yn feddw wrth fedd ei thad a bod rhai pobl wedi cael eu gweld yn piso wrth y fynwent.
Dywedodd Mr Philips mai diwrnod i gofio'r ddau ddyn a beth wnaethont fydd, ac nid dathliad o ddiwylliant cenedlaetholwyr.