Mae swyddogion wedi cyhuddo dau bennaeth, Richard Brunstrom a Clive Wolfendale o fod fel dau ddihiryn, yn cynllunio drwy'r amser, a'u bod wedi creu awyrgylch o hunanoldeb a gweld bai.
Mi fydd y ddau'n gadael yn fuan, gyda Richard Brunstrom yn ymddeol mis nesaf, a'i ddirpwy Clive Wolfendale yn cymryd swydd fel prif weithredwr i'r elusen cyffuriau ac alcohol Cais ym mis Medi.
Ond yn y rhifyn diweddaraf o lythyr newyddion Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, dywedodd Richard Eccles, ysgrifennydd y ffederasiwn, y bydd ymddeoliad y ddau brif swyddog fel diwedd i gyfnod.
Er fod gan yr heddlu well offer, sy'n beth da, dywedodd y bydd yn falch o ddiwedd i rai elfennau o'u gweithredu.
"Roedd fy mherthynas fel ysgrifennydd yn debyg i gadw llygaid ar ddau ddihiryn.
"Roeddech yn ymwybodol drwy'r amser eu bod yn cynllwynio, fedrech eu dal, er na ellwch brofi'r ffaith bob tro, ac mi fedrech byth eu credu'n go iawn pan ddywedent 'ni wnaf hyn eto'".
Ond dywedodd yn ddiweddarach nad oedd yn awgrymu fod dim byd anghyfreithlon, ond ei bod hi'n anodd cadw i fyny gyda'u cynlluniau. Roeddynt wastad yn newid pethau, ac mi fydd y swyddogion yn ceisio cadw i fyny gyda'r newidiadau.