Dec 4 2009
Bu pobl greulon yn diffodd eu sigarennau ar filgi roeddent wedi ei lwgu, cyn ei adael i farw ar ochr yr A548 ym Maes Glas.
Daeth gyrrwr caredig ar draws y ci, a cludwyd ef i Flintshire Wildlife and Pet Rescue.
Roedd y ci yn pwyso llai na hanner faint dylai, ac roedd Elfyn Pierce Jones, sy'n rhedeg y ganolfan yn Nhreffynnon yn ofni y gallai'r ci farw, ac yn methu deall sut gallai neb fod mor greulon.
Mae'r milgi, a gredir i fod rhwng 12 ac 18 mis oed, wedi gwella'n aruthrol dros y tair wythnos diwethaf.
Mae'r achos yma'n dod yn sgil ystadegau gan yr RSPCA sy'n dangos fod y nifer o berchnogion sy'n cael gwared o'u hanifeiliaid wedi cynyddu 57%, a chredir mai'r sefyllfa economaidd yw'r achos, oherwydd nad yw rhai perchnogion yn gallu gofalu am eu hanifeiliaid.
Ddoe roedd y milgi'n parhau i wella, ond dywedodd Elfyn y bydd angen cartref newydd i'r ci pan fydd wedi llwyr adfer.