Mi fydd adar ysglyfaethus yn dod i dref glan môr i gadw gwylanod rhag fod yn niwsans.
Creuwyd y Coastal Hawks Project gan Mike Espley a'i bartneriaid busnes ar ôl gweld mwy na 30 o ymosodiadau gan wylanod ar siopwyr yng nghanol tref Y Rhyl mewn un diwrnod.
Mae'n bwriadu patrolio'r strydoedd a'r awyr, wedi ei wisgo mewn dillad o'r canol oesoedd gyda tylluan fawr, gwalchod Harris a hebogiaid saker-peregrine.
Mi fydd y cynllun, a fydd yn dechrau wythnos nesaf yn creu tri swydd i bobl diwaith lleol. Mi fyddent yn derbyn hyfforddiant mewn canolfan hebogaeth yn Y Trallwng cyn mynd ar y strydoedd ar Fawrth 1.
Ond mae'r cynghorydd Espley yn gobeithio ymestyn y cynllun ar hyd arfordir Gogledd Cymru gyda chymorth cyllidol gan gynghorau a busnesau, a phrosiect streategaeth tref Y Rhyl a Chyngor Cymru dros Weithredu Gwirfoddol.
Dywedodd na fydd yr adar yn hedfan o gwmpas y dref ond mi fyddent gyda'u gwarcheidwaid, ac mi fydd y ffaith eu bod o gwmpas yn ddigon i gadw'r gwylanod draw. Dywedodd Mr Espley y buasai aderyn ysglyfaethus yn ymosod ar wylan yn fath o olygfa ni fyddai ymwelwyr yn ei hoffi.