Disgrifiodd arweinydd tîm achub y dasg o achub dyn a ddisgynodd i lawr gyli yn llawn o eira, fel y dasg fwyaf anodd o gyflawnodd mewn 30 mlynedd.
Roedd y dyn a achubwyd, a gredir i fod yn ei ugainiau cynnar ac o Gaerdydd, wedi bod yn dringo y Twll Du yn Nyffryn Ogwen ar brynhawn Sadwrn. Roedd yn agos i ddiwedd y dringfa pan ddisgynnodd.
Dywedodd Chirs Lloyd o dîm achub mynydd Dyffryn Ogwen mai hyn oedd y dasg achub fwyaf anodd yn y 30 mlynedd y bu gyda'r tîm.
Bu rhaid gweithio mewn lle cyfyng, gyda eira trwchus, ac mewn tywyllwch.
Dywedodd Mr Lloyd fod y dyn wedi dod gyda offer addas ac roedd yn brofiadol. Roedd dynes o glwb mynydda o Dde Cymru gydag ef.
Canmolodd dewrder y ddynes wrth aros yn ddigyffro ystod y gwaith achub.
Roedd y dringwr yn agos i ddiwedd y dringfa pan aeth rhywbeth o chwith, efallai fod darn o rew wedi torri i ffwrdd fel y disgynnodd 120 troedgedd i lawr, a dioddefodd anafiadau i'w ben a'i goesau.
Roedd pedwar dringwr arall yn yr ardal, ac mi aeth dau i'w helpu a dau i edrych am gymorth.
Gyrrwyd 15 o aelodau o'r tîm achub, ond pan sylweddolwyd pa mor ddifrifol oedd anafiadau'r dyn, gyrrwyd am hofrennydd, ond roedd lleoliad y dyn yn y Twll Du yn gwneud pethau'n anodd, felly bu rhaid i'r tîm achub gario'r dyn i le mwy addas i'r hofrennydd allu ei godi.