Rhybuddiodd timau achub mynydd i gerddwyr fod yn ofalus rhag afalans ar ôl i 500 tunnell o eira lithro i lawr ochr mynydd yn yr Eryri.
Roedd ofnau y gall rhywun fod o dan yr eira pan ddaethpwyd o hyd i lamp pen yn agos i Rhaeadr Fawr yn Abergwyngregyn.
Digwyddodd yr afalans wrth i eira barhau i effeithio ar ardaloedd uwch gyda nifer o lonydd llai ac ysgolion yn parhau ar gau ddoe.
Fe all rhew barhau i wneud lonydd a phalmentydd yn beryglus, ond roedd y swyddfa dywydd yn dweud fydd y rhew yn dadmer dros y penwythnos wrth i'r tymheredd fynd yn uwch.
Ar ôl yr afalans ar ddydd Mercher gyrrwyd dros 20 o aelodau o dîm achub Dyffryn Ogwen pan welwyd y lamp pen, a oedd dal ar, ger y Rhaeadr Fawr.
Ar ôl chwilio am dair awr gyda chŵn ni ddaethpwyd ar hyd i neb, ond dywedodd Chris Lloyd, llefarydd y tîm achub fod perygl i eira lithro i lawr gan achosi afalans, a rhybuddiodd cerddwyr i fod yn ofalus pe baent yn ymweld â Gogledd Cymru dros y penwythnos.