Dywedodd penaethiaid twristiaeth y buasai cynnal un o wyliau gerddorol am ddim mwyaf yn Ewrop yng Ngogledd Cymru'n creu hwb sydd ei wir angen i'r rhanbarth.
Mae'n ymddangos y gallai Radio 1 y BBC gynnal y Big Weekend dros ddau ddiwrnod ym mis Mai yn y Faenol ger Bangor.
Mae'r ŵyl wedi denu rhai o sêr mwyaf y byd gan gynnwys Madonna, Snow Patrol a Lily Allen yn y gorffennol, a denodd y Big Weekend llynedd yn Swindon dros 25,000 o ymwelwyr.
Roedd penaethiaid y BBC yn ceisio tawelu'r sibrydion mai yn y Faenol fydd y Big Weekend, ond mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi cyflwyno cais i gynnal gŵyl gerddorol awyr agored a fydd yn digwydd rhywdro rhwng Mai 1 ac Awst 16.
Dywedodd Dewi Davies, rheolwr strategaeth rhanbarthol o Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru fod hyn yn bosibilrwydd diddorol a fuasai'n denu nifer fawr o bobl ifanc i Ogledd Cymru ar ddechrau'r haf, ac mi fyddent yn mwynhau'r creddoriaeth yn y Faenol, ac fwy na thebyg dychwelyd i fwynhau atyniadau eraill yr ardal.
Dywedodd Rhian Barlow, 27 oed o Gaernarfon, a fu i'r Big Weekend yng Nghaerdydd yn 2003: "Roedd yn benwythnos gwych gyda cherddoriaeth gwych. Mae'n biti fod rhaid teithio mor bell i weld y perfformwyr mwyaf. Mi fuasai'n dda pe bae'r Big Weekend yn cael ei gynnal yma."
Ond mae perchnogion gwestai yn llai gobeithiol, ac yn ofni mai ychydig iawn o fudd fydd iddynt. Dywedodd un mai bob ifanc o dan 25 oed fydd y rhan fwyaf o wrandawyr y Big Weekend, ac felly'n fwy tebygol o wersylla ar y safle. Mae Gŵyl y Faenol wedi ei sefydlu ers blynyddoedd gyda chynnulleidfa mwy aeddfed, a gallaf godi fy mhrisiau.
Gwrthododd Cyngor Gwynedd gadarnhau os fydd y Big Weekend yn dod i'r Faenol, ond dywedodd llefarydd eu bod yn trafod gyda threfnwyr digwyddiadau i ddenu digwyddiadau a allent gael effaith gadarnhaol ar yr ardal, a dywedodd llefarwraig ar ran Radio 1 eu bod yn ystyried nifer o safleoedd ac felly ni allent gardarnhau ar hyn o bryd lle fydd y Big Weekend.
Diddymwyd Gŵyl y Faenol llynedd oherwydd y sefyllfa economaidd, ond mae barged pum mlynedd wedi ei threfnu i ddiogelu dyfodol yr ŵyl.