Achubwyd dyn a oedd yn credded gyda'i gi, ac oedd wedi disgyn i mewn i ffos lond o eira, rhag rhewi i farwolaeth, gan ferch 16 oed.
Bu David Walker, yn gorwedd am awr mewn tymheredd o -2 gradd selsiws ar ôl llithro ar lwybr rhewllyd, a disgynodd 25 troedfedd at afon Aran ger Dolgellau.
Roedd y dyn 39 oed wedi taro ei ben yn erbyn coeden ar ei ffordd i lawr, a stopiodd ychydig doredfeddi oddiwrth disgynfa serth o 30 troedgedd i'r afon.
Nid oedd yn gallu symud oherwydd roedd ei wddf wedi ei barlysu felly dechreuodd waeddi am help.
Ar ôl awr clywodd Shelley Morgan, 16 oed, y gwaeddi, a rhedodd adref i gael blanced ac i alw'r ambiwlans.
Dywedodd arbenigwyr y gallai Mr Walker fod wedi bod mewn perygl difrifol pe bai wedi gorwedd yno am awr arall, mewn tymheredd o -2 gradd selsiws ar nos Fercher.
Daeth yr ambiwlans dryw'r eira i gyrraedd David ac i'w gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Ar ôl dod allan o'r ysbyty ddoe, dywedodd Mr Walker, o Ffordd Heulog, Dolgellau, y buasai wedi marw onibai am Shelley.
Roedd Shelley, myfyrwraig yng Ngholeg Meirion Dwyfor, yn chwarae yn yr eira tu allan i'w chartref tua chwech o'r gloch y nos pan glywodd rhywun yn gwaeddi, a phenderfynodd edrych i weld beth oedd, a phan welodd dyn yn gorwedd yn yr eira aeth i nol blanced i'w gadw'n gynnes a ffôn i alw am gymorth.