Ail ddamwain angeuol yn Cei Connah yn achosi arolwg diogelwch

Bu dyn yn farw yn oriau mân ddoe pan aeth ei gar i mewn i goeden ychydig lathenni o ddamwain angeuol arall llai na wythnos yn ôl. Roedd Carl Liam Sutton, 26 oed, o aral Cei Connah, yn gyrru MG ZR ar yr A548 Sealand Road ar Lannau Dyfrdwy pan ddigwyddodd y ddamwain, chwarter i bedwar bore ddoe.

Roedd 200 llath o le lladdwyd yr athletwr Danny Evans wythnos diwethaf.

Bu galwadau ddoe am arolwg i ddiogelwch y lôn ar ôl pryderon am ddiogelwch, a'r baw sydd arno.

Roedd car Mr Sutton yn gyrru o gyfeiriad Caer i Lannau Dyfrdwy pan ddigwyddodd y ddamwain, ac mae'r heddlu'n apelio am dystion.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol Christine Jones, a'r cynghorydd cymuned David Wisinger fod y trasiedi diweddaraf wedi codi pryderon am ddiogelwch y lôn.

Roedd y lôn wedi bod yn llond o fwd a baw, heb oleuadau ystod y nos, ac roedd angen cyfyngu cyflymder.

Dywedodd y cynghorydd Jones ie bod wedi bod yn galw ar y cyngor sir ers misoedd i ofalu fod y lôn yn cael ei lanhau, ac mae cerbydau yn gyrru i mewn ac allan o'r ffermydd ar y lôn, gan adael mwd.

Mae'r heddlu'n apelio ami dystion i ddamwain ddoe gysylltu â'r uned plismona'r lonydd Glannau Dyfrdwy ar 101 yng Nghymru, neu ffonio 0845 607 1001 (Cymraeg) neu 0845 607 1002 (Saesneg).