RSPCA yn colli £400,000 am ddifa anifail

Mae elusen lles anifeiliaid wedi colli cyfle i dderbyn miloedd o bunnoedd am eu bod wedi difa anifail ar ôl i'w berchenog farw. Cafwyd hyd i Claude Atack, 80 oed, wedi disgyn yn ei gartref yng Nghaernarfon yn Ionawr a bu farw yn yr ysbyty deuddydd yn ddiweddarach.

Cymerwyd ei gi defaid 10 oed, Blackie, i mewn gan gymdogion a rhoddwyd ef i'r RSPCA tra roeddynt yn edrych am gartref parhaol iddo.

Ond difawyd Blackie yn fuan ar ôl iddo gael ei osod mewn llety cŵn yn yr Amwythig.

Neithiwr sylweddolwyd fod gweithred yr RSPCA wedi bod yn un costus iawn, oherwydd fod ewyllys Mr Atack yn manylu y dylai ei eiddogael ei rannu gan achosion teilwng gyda pumed rhan ohono i fynd i elusen lles anifeiliaid.

Dywedodd Dewi Pritchard Jones, cyfreithiwr Mr Atack fod yr ystad yn werth mwy na £400,000.

Ychwanegodd Mr Jones nad oedd yr RSPCA yn gwybod am gynnwys yr ewyllys, a oedd yn dweud y dylid rhannu'r ystad rhwng elusennau o ddewis Mr Atack gyda pumed rhan o leiaf i fynd i elusen anifeiliaid.

Roedd Mr Atack wedi dweud wrth Mr Jones i wneud pob ymdrech i gael cartref newydd i'r ci ac i fod yn hael gyda unrhyw elusen a roddodd cymorth gyda hyn, gyda posibilrwydd o roi'r ystad gyfan i'r elusen yna. Fe allai'r RSPCA fod wedi etifeddu'r rhan fwyaf, neu hyd yn oed y cwbl, o'r eiddo gwerth dros £400,000 pe baent wedi cartrefu Blackie.

Dywedodd swyddogion yr RSPCA mai oherwydd oed ac afiechyd Blackie y difawyd ef, ond nid yw Mr Jones yn cytuno.

Dywedodd Mr Jones fod Blackie yn 10 oed, ond bendant nid oedd mewn iechyd gwael. Roedd milfeddyg wedi dweud nad oedd fawr ddim o'i le hefo'r ci heblaw am ei oed, dechrau cataractau ac ychydig yn dew.

Roedd Mr Atack, a symudodd o Salford i Ogledd Cymru, yn byw ar ben ei hyn ac nid oedd ganddo deulu agos.