Milwr wedi trefnu priodas tra roedd yn Affghanistan

Mi aeth milwr i lawr ar ei liniaui ofyn i'w gariad ei briodi, ac wedyn priodasant yn y man mewn seremoni oedd wedi ei drefnu yn ddirgel tra roedd yn Affghanistan. Roedd Colin Dawson, 46 oed, sarjiant gyda'r Royal Signal Regiment, adref yn dathlu penblwydd ei fam Kathleen yn 65 oed.

Heb i'w bartner Vikki Galloway wybod, roedd wedi trefnu priodas iddynt dros y rhyngrwyd yn Eglwys Sant Mihangel, Treflys, ger Porthmadog.

Dywedodd Vikki, 53 oed, fod hyn yn syrpreis. “Stopiasom ger yr eglwys a'r peth nesaf oedd i Colin fynd i lawr ar un glin a gofyn i mi ei briodi.

“Dywedodd 'Rwan. Rydym am briodi rwan.'

“Wedyn roedd llawer o bobl yn sefyll o gwmpas bedd a troisant a dechrau cerdded atom.

“Wedyn adnabyddais fy mrawd a fy chwaer-yng-nghyfraith, ac roedd dagrau a chwerthin. Roedd pobl wedi dod o bell i fod wrth yr eglwys fach yma.

“Roeddwn mewn ffrog gwyrdd tywyll ac roeddwn yn meddwl mai mynd allan am ginio oeddem. Wedyn daeth torch o flodau allan o gefn y car.”

Charlie Dubique oedd y gwas priodas, a oedd wedi dod drosodd o'r Almaen lle mae yn y fyddin.

Roedd Colin o Griccieth, a Vikki, wedi cael ysgariad o briodasau cynt, ac roeddynt wedi eu magu ym Mrychtyn, Sir Y Fflint, ond nid oeddynt wedi gweld eu gilydd ers pan oedd Colin yn 12 oed a Vikki yn 19, a cwrddasant eto dwy mlynedd yn ôl.

Ar ôl y gwledd briodas a noson yng Ngwesty Mynydd Ednyfed yn Nghriccieth, bu rhaid i Colin fynd yn ôl i Affghanistan, ac ni fyddent yn gweld eu gilydd eto nes fydd Colin yn dychwelyd ym Mai, ac mi fyddent yn byw yn Swydd Caergrawnt.