Holi dyn dros ddamwain ar yr A55 ym Mae Colwyn

Arestwyd dyn ddoe ar amheuaeth o geisio llofruddio dynes ar ôl i'w gar Audi daro i mewn i rwystrau diogelwch ar yr A55. Anafwyd y ddynes 25 oed oedd yn teithio yn y car yn y ddamwain a ddigwyddodd yn oriau mân bore ddoe ym Mae Colwyn.

Aethpwyd â hi i Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan am driniaeth ond gollyngwyd yn hwyrach.

Caewyd y cerbytffordd i gyfeiriad y dwyrain am dros naw awr, gan achosi oedi ar y ffordd, a thagfeydd traffig yn y dref.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi arestio dyn lleol 40 oed, na enwyd, ar ôl ymchwiliad rhagarweiniol, ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Yn wreiddiol roedd wedi ei arestio ar amheuaeth o droseddau gyrru ar ôl y ddamwain a ddigwyddodd chwarter wedi dau yn y bore. Roedd dal yn y ddalfa neithiwr.

Roedd y dyn wedi bod yn gyrru Audi A4 gwyrdd tywyll a darawodd yn erbyn llain ganol y lôn yn agos at gyffordd 21 o'r A55 ym Mae Colwyn.

Dywedodd un person a welodd y car fod yn ymddangos fod y car wedi taro'r llain ganol ar gyflymder go uchel oherwydd fod y car wedi troi o gwmpas i wynebu'r cyfeiriad anghywir, ac roedd ei flaen wedi torri.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i'r ddamwain i roi galwad ar 101 os yng Nghymru, neu 0845 607 1001 (Cymraeg), neu 0845 607 1002 (Saesneg) neu neges testun ar 66767, neu ebostio northwalespolice@north-wales.police.