Mar 4 2010 Gan Owen Hughes
Mae milwr a ofnodd y byddai'n colli ei goes ar ôl rhagod gan y Taliban, yn dyheu i fod yn ôl ar y llinell flaen yn Affghanistan. Roedd Ffiwsiliwr James Ryan yn patrolio yn nhalaith Helmand pan aeth tameidiau o fom i'w glun chwith.
Cludwyd y milwr 23 oed, a yrrwyd i Affghanistan wythnos cyn y Nadolig, i Camp Bastion heb deimlad yn ie goes chwith.
Bu rhaid cyflawni llawdriniaeth ar frys i dynnu'r darn o fom, cyn ei yrru mewn awyren i ysbyty filwrol Selly Oak ym Mirmingham, lle gwnaed llawdriniaeth pellach.
Roedd y llawfeddygon yn llwyddiannus mewn tynnu'r darnau o fom, ac mae'r meddygon nawr yn ffyddiog y bydd y milwr yn gwella'n llwyr ar ôl ofnau yn y dechrau ei fod wedi dioddef difrod parhaol i nerfau.
Mae'r milwr o'r Fali, Ynys Môn, a briododd ei wraig Lia yn Hydref, dal yn y Deyrnas Unedig yn gwella, ond mae'n gobeithio fod yn ôl yn ymladd yn erbyn y Taliban cyn i'w gatrawd ddod adref ym mis Mai.
Ddoe soniodd am yr ymosodiad. Roedd ar batrol ym mis Ionawr, dim ond y trydydd ers iddo fynd i Affghanistan, pan bu rhagod gan y Taliban. Dywedodd nad oedd y hyffoddiant a gafodd yn gallu ei baratoi'n llwyr am yr ymosodiad gyntaf go iawn.
“Roeddent yn tanio bomiau awyr atom, ac nid oeddwn yn sylweddoli fy mod wedi cael fy nharo. Dim ond ar ôl i filwr arall ddweud fod gennyf waed yn dod allan o fy nillad y gwyddais, ac wedyn dechreuaid deimlo'r boen.
Cafodd cymorth cyntaf brys ar faes y frwydr cyn cael ei gludo mewn awyren i Camp Bastion, ac ymhen 24 roedd yn Selly Oak ym Mirmingham.
Mae James, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Bodedern, yn gwneud y gorau o'r amser ychwanegol gyda'i wraig Lia, ond mae'n teimlo'n euog o fod adref tra mae ei gyfeillion yn ymladd.
Ychwanegodd fod ymladd yn Affghanistan yn anodd oherwydd fod y Taliban yn adnabod eu hardal ac yn gyfrwys.