Mar 8 2010 Gan Owen Hughes
Mae pentrefi sydd eisoes wedi colli eu swyddfeydd post, ysgolion a siopau yn debygol o golli eu gorsafoedd petrol. Mae 50 o orsafoedd petrol gwledig a mwy na 60 o rai mewn trefydd eisoes wedi cau dros y pum mlynedd olaf yng Nghymru, ac mi fydd y rhai sydd dal mewn bodolaeth yn wynebu codiad mewn treth busnes a all eu gorfodi i gau.
Dywedodd Paul Blackwell, perchenog gorsaf betrol Parc Service Station yng Nglyndyfrdwy, ger Corwen, nad yw pethau eirioed wedi bod cyn waethed ystod y deg mlynedd y mae wedi bod mewn busnes, a rhybuddiodd y gallai mwy o orsafoedd petrol fynd i'r wal, gan gau'r siop olaf mewn llawer o bentrefi.
Dywedodd fod rhaid i orsaf betrol gwledig godi wyth ceiniog yn fyw y litr na'r archfarchnadoedd neu orsafoedd sydd eiddo i'r cwmnïau petrol, i fedru gwneud elw o ychydig o geiniogau, ac felly mae modurwyr o bentrefi'n teulu i lenwi eu ceir pan maent yn y dref. Mae'r gorsafoedd bychain felly yn angen rhyddhad ardrethi er mwyn gwneud pethau'n fwy cyfartal.
Rhwng 2004 a 2009 caewyd 50 o orsafoedd petrol, ond dywedodd Tony Brooks, rheolwr Gorsaf Betrol yn Llanrwst, mai'r unig beth sy'n ei synnu yw nad yw'r ffigwr yn uwch, oherwydd fod cadw gorsaf betrol yn mynd yn waith mor anodd, ac mai'r ffaith fod ganddo siop a busnes arall sy'n ei alluogi i barhau. Gyda'r gorsaf betrol gallai wario miloedd o bunnoedd i wneud elw pitw o £30.
Dywedodd David Jones, Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd y gallai'r gorsafoedd sydd dal mewn bodolaeth wynebu codiad ardrethi o 450% ar ôl adolygiad gan y Cynulliad, sydd wedi ei seilio ar ffordd ddiffygiol o weithio allan eu gwerth rhentu.
Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth y Swyddfa Brisio ei fod yn ymwybodol o bryderon y gorsafoedd petrol, ac mi fydd yn ceisio eu datrus.