Cyngor Gwynedd yn talu perchnogion am ddefnyddio toiledau

Mi fydd Cyngor Gwynedd yn talu £500 i berchnogion bwytai a thafarnau i ganiatau i'r cyhoedd ddefnyddio eu toiledau. Mae busnesau wedi bod yn eiddgar i fanteisio o'r grantiau a gynigir gan y cyngor ar ôl i 33 o doiledau cyhoeddus gael eu cau yn y sir llynedd er mwyn arbed arian.

I allu derbyn y grantiau gan cynllun grantiau toiledau cyhoeddus llywodraeth y Cynulliad, mae'n rhaid iddynt gynnig toiledau sy'n lân, gyda phapur lle chwech, a lle y ymolchi a sychu dwylo.

Arbedodd Cyngor Gwynedd £133,000 drwy gau'r toiledau, er gohirwyd cau rhai toiledau eraill oherwydd ymgyrchu brwd gan Louise Hughes o Llais Gwynedd.

Roedd penaethiaid y cyngor eisiau i gynghorau cymunedau gymryd drosodd rhai o'r toiledau, ac yn gobeithio y gwneith tafarndai, siopau a bwytai gynnig eu toiledau i'r cyhoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts fod y cynllun wedi bod yn lwyddiannus iawn, ac roedd yn gobeithio y gwneith mwy o fusnesau ddod i mewn i'r cynllun.

Mi fydd busnesau sy'n cymryd rahn yn derbyn arwyddion ddwyieithog i ddweud fod y toiledau ar gael i'r cyhoedd, ac hyd yma mae 28 o fusnesau wedi cynnig eu hunain, ac mae arian i gyllido mwy.

Dywedodd y cynghorydd Roberts fod oherwydd yr angen i gynilo £16 miliwn dros y tair mlynedd nesaf, nid oes dewis ond cael hyd i ffyrdd newydd, llawn dychymyg o gynnig rhai gwasanaethau.

Dywedodd Raymond Lennon, o'r Halfway House ym Mhontddu, Meirionnydd fod yn beth da cael arwydd fel y gall pobl ddod i mewn i ddefnyddio'r toiledau heb deimlo'n annifyr.

Mae Haydn Thomas o Caffi Cei, Caernarfon, wedi bod yn ran o'r cynllun ers blwyddyn a hanner a dywedodd y buasai'n argymell y syniad i fusnesau eraill. Mae'n gwneud y busnes yn fwy croesawgar i ymlwelwyr ac nid oedd rhaid newid dim byd yn y caffi.