Mar 10 2010 Gan Sam Lister
Penderfynodd y llywodraeth ddoe na fydd hawl i ddiffynyddion roi eu hachosion o flaen rheithgorau dwyieithog. Penderfynodd y gweinidogion y buasai'r trafferthion a achosir gan y cyfyngiadau ar bwy all gael eu dewis, yn fwy na'r manteision o gael 12 o bobl sy'n gallu siarad y Gymraeg a'r Saesneg.
Roedd awgrym y gellir cael rheithgorau dwyieithog mewn achosion lle roedd rhan helaeth o'r tystiolaeth yn y Gymraeg, wedi bod o dan ymgynghoriad, ond credai'r llywodraeth y buasai hyn yn cau allan y mwyafrif o'r boblogaeth, ac felly'n diddymu'r egwyddor o ddewis rheithgorau ar amcan.
Yn ôl y sensws diwethaf mae 21% o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, ond yn ôl ymchwil gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, dim ond 6.4% sy'n dweud eu bod yn rhugl yn yr iaith.
Ar y sail yna ni fuasai naw allan o ddeg o bobl yn gymwys i wasanaethu ar reithgor.
Dywedodd Claire Ward, Gweinidog Cyfiawnder mai dewis rhwng dau beth dymunol oedd hyn, sef egwyddor dewis rheithgorau ar amcan, neu mwy o ddefnydd o'r Gymraeg mewn llysoedd.
Dywedodd fod dewis rheithgorau ar amcan yn ran bwysig o'r hawl i ddiffynyddion gael gwrandawiad o flaen eu cyd-ddinasyddion, ac mae'r llywodraeth yn talu am gyfieithwyr mewn achosion lle defnyddir y Gymraeg mewn llys.
Roedd Hywel Williams o Blaid Cymru wedi awgrymu deddf a fuasai wedi caniatau rheithgorau dwyieithog, ar ddydd Gŵyl Ddewi, a dywedodd ei fod yn siomedig gyda “diffyg uchelgais” y llywodraeth. Dywedodd fod Canada wedi creu system o'r fath, ac nad oes unrhyw reswm da pan nad yw hyn yn bosib yng Nghymru, ac mae llawer o bobl yn teimlo'n hapusach yn cyfathrebu drwy'r Gymraeg.