Mar 11 2010 Gan Kelly Barker
Mae dyn gyda chyllell ar ffo ar ôl lladrad o asiantaeth teithiau Apex Travel yn Nant Hall Road, Prestatyn. Bygythiodd y staff gyda chyllell cyn dianc gyda ychydig o arian.
Nid oes neb wedi ei arestio, ac ni ryddhawyd disgrifiad o'r dyn.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod staff y siop wedi cael eu dychryn ond heb eu hanafu ar ôl y lladrad a gymerodd le tua 5 o'r gloch nos Fawrth.
Neithiwr dywedodd perchenog y siop, nad oedd yn y siop pan ddigwyddodd y lladrad, fod pawb yn iawn, dim ond wedi cael braw, ac fod y lleidr wedi dianc gyda ychydig o arian.
Ond nid oedd yn barod i ddweud mwy am y digwyddiad.
Mae Apex yn asiantaeth annibynnol sydd wedi bod mewn bodolaeth ers amser hir, gyda changen yn Rhuddlan.
Mae'r heddlu'n apelio am unrhyw dystiolaeth am y lladrad ne am unrhyw berson a oedd yn ymddwyn mewn modd amheus yn ardal Nant Hall Road yn agos at y llyfrgell tua phump o'r gloch nos Fawrth, a gofynnir i unrhyw un gyda gwybodaeth i ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Crimestoppers ar 0800 555 111.