Mar 17 2010 Gan Hywel Trewyn
Mae chwarel llechi a fu ar un adeg y mwyaf yn y byd ar fin cau oherwydd ei bod yn beryglus. Clywodd y gweithwyr yn y chwarel Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog fod y chwarel i gau ar ôl i graciau mawr ymddangos ar wyneb y graig.
Dywedodd rheolwyr y cwmni Welsh Slate fod ymsuddiant yn y chwarel yn peri perygl i'r gweithwyr.
Mi fydd tua 30 o weithwyr yn colli eu gwaith tra fydd rhwng 25 a 30 o weithwyr yn cael eu symud i chwarel Penrhyn ym Methesda.
Galwyd geolegwyr i mewn i gael golwg pan ddarganfyddwyd y craciau yn y graig pythefnos yn ôl, a dywedasant mai ymsuddiant mewn siambrau mwyngloddio oedd yr achos.
Dywedodd y penaethiaid nad oedd ganddynt ddewis ond cau'r chwarel 179 oed, a elwir hefyd yn Gloddfa Ganol a Ffestiniog.
Clywodd y gweithwyr ddoe nad oedd y penaethiaid wedi penderfynu eto ar y nifer penodol o weithwyr i gael eu diswyddo, ac mi fydd ymgynghori gyda'r undebau.
Daeth y newyddion ychydig oriau ar ôl cadarnhad fod y cais i wella'r rheilffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno, er mwyn cario agregau, wedi cael ei wrthod.
Dywedodd Paddy McNaught, swyddog yr undeb Unite y bydd yn ceisio sicrhau y bydd y cwmni'n diogelu rhai o'r swyddi drwy symud gweithwyr i chwarel arall.
Yn ôl Alan Smith, rheolwr gyfarwyddwr Welsh Slate, penderfyniad ar sail diogelwch oedd, oherwydd y perygl i do'r siambrau ddisgyn i lawr, ac nad oedd gan twyll cyn-reolwyr Welsh Slate yn y gorffennol, ddim i'w wneud â hyn.
Dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mai penderfyniad Welsh Slate oedd cau'r chwarel, ac nid oedd yr awdurdod wedi rhoi unrhyw orchymyn iddynt.
Dywedodd Mr Smith y bydd y chwarel yn cau ar ddiwedd Ebrill, ond nid yw hyn yn amharu ar archebion cyfredol, ac mi fydd cwsmeriaid yn gallu prynu o chwareli eraill y cwmni, ac mi fydd y cwmni'n edrych eto ar y posibilrwydd o ail-agor y chwarel.