Mar 17 2010 Gan Richard Down
Disgynodd lleidr drwy do warws wedi ei gloi, a dalwyd ar gamera cylch-cyfyng wrth iddo geisio mynd allan. Bu rhaid i'r lleidr anlwcus ffonio ffrindiau i ddod i'w helpu, ar ôl methu dod allan o ystorfa cychod yn nghanolfan canŵio Whitewater Active, yn Llangollen.
Mae ffilm smala y camera cylch cyfyng yn dangos ei banic cynyddol wrth iddo geisio torri allan o'r adeilad lle disgynodd i mewn ar nos Iau.
Wedyn ceisiodd ddwyn beic mynydd, ond nid oedd yn gallu ei roi i mewn yn ei gar.
Dywedodd Sally Jayes, sydd yn berchenog Whitewater Active gyda'i gŵr Jim: “Pan ydych yn edrych ar y ffilm yn gyflym mae'n edrych fel rhywbeth o Benny Hill.”
Mae'r cwpl a'u staff yn gweld y digwyddiad yn ddigrif ac hefyd yn anghredadwy.
Dywedodd Mrs Jayes fod hi'n amlwg mai cymryd mantais o gyfle oedd, oherwydd roedd wedi rhoi pethau roedd yn bwriadu eu dwyn ger y drws, ond roedd yn gwalltgofi wrth iddo sylweddoli nad yw'n gallu dianc, ac mae'n trio pob drws. Dywedodd Mrs Jayes ei bod yn amlwg wedi gwneud job dda o ddiogelu'r adeilad.
Deellir fod rhai o'i ffrindiau wedi parcio gerllaw ac yn anymwybodol o'i dro trwstan. Roedd hyn yn ddigon o amser i'r lleidr dwtio dipyn o rwbel.
Ychwanegodd Mrs Jayes ei bod yn methu deall pam na ffoniodd y lleidr ei ffrindiau'n gynt, ac ar ôl iddo ddwyn beic drud a gweld nad oedd yn ffitio i mewn i gar bach gyda tri dyn, dychwelodd y beic i'r warws. Fe allai fod wedi taflu'r beic i mewn i afon.
Darganfyddwyd y cais lladrata ar fore Gwener pan welodd y cwpl bob arwydd fod rhywun wedi torri i mewn ond dim arwydd fod dim wedi ei ddwyn. Dim ond ar gwylio'r ffilm camera cylch cyfyng gwelsant y troeon trwstan.
Ond roedd rhai canlyniadau anffodus. Mi fydd rhaid i arbenigwyr archwilio'r to asbestos cyn y gallent ail-agor y warws, ac mi fydd rhaid cael peiriant coginio newydd a thrwsio'r to.
Yn waeth fyth, dywedodd Mrs Jayes nad yw'r heddlu'n cymryd o ddifrif y pumed achos o dorri i mewn i'r adeilad. Roedd heddwas wedi dweud nad oedd yn debyg y bydd neb yn adnabod y lleidr.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn archwilio'r trosedd, er dywedasant nad oedd yr heddlu wedi gweld y ffilm.
Gofynnir i unrhyw un sy'n adnabod y lleidr i ffonio'r heddlu ar 0845 607 1002, neu Crimestoppers ar 0800 555 111, neu ebostio northwalespolice@north-wales.police.uk