Mar 19 2010 Gan Mike Hornby
Gafaelodd Bruce Jones, cyn-seren Coronation Street yn llyw y car pan oedd ei wraig yn gyrru, a cheisiodd llywio'r car i mewn i lori, er mwyn ceisio lladd y ddau ohonynt, clywyd mewn llys ddoe. Roedd Jones, 57 oed, a oedd yn actio rhan Les Battersby yn y rhaglen ITV, yn cael ei gyhuddo o geisio mynd â'r car i darawiad gyda lori tra roeddynt yn teithio'n gyflym ar yr A55 ger Treffynon.
Dywedodd Sandra Jones, 59 oed, sydd wedi bod yn briod gyda'r actor ers 26 mlynedd ei fod yn feddw yn eu car Mercedes pan wylltiodd, a gafaelodd yn y llyw gan achosi i'r car symud i'r ochr.
Dywedodd Sandra fod ei gŵr yn dweud ei fod am yrru'r car i mewn i lori a lladd y ddau ohonynt.
Llwyddodd Mrs Jones i gadw rheolaeth o'r car a'i stopio ger dafarn gyfagos, ond yn ôl yr erlyniaeth pan aeth allan o'r car gafaelodd Jones yn ei garddwrn.
Mae Jones, o Alderley Edge, Swydd Gaer, o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug, dan ei enw dilys o Ian Roy Jones. Mae'n gwadu'r huddiadau o yrru'n beryglus ac ymosod cyffredin.
Rhybuddiodd y barnwr Simon Medland y rheithgor i anwybyddu unrhyw ragfarnau am y cymeriad amheus Les Battersby.
Dywedodd Mrs Jones wrth y rheithgor y dechreuodd sylweddoli fod gan ei gŵr broblem gyda alcohol chwe mis ar ôl dechrau byw gydag ef. Mi fyddai weithiau'n meddwi ac yn gweiddi arni, ac weithiau yn ei gwthio a tharo dodrefn drosodd.
Dywedodd wrth yr erlynydd Gordon Hennell bod ei gŵr wedi bod yn taflu pethau ati ac wedi ei tharo o leiaf unwaith, ac wrth fynd yn nerfus yn y blwch tystio, dywedodd fod hyn yn digwydd pan oedd wedi bod yn yfed.
Pan adawodd Jones Coronation Street mi aeth ei ymddygiad yn waeth ac roedd yn mynd allan i yfed mwy.
Ar noson y digwyddiad honedig ar Awst 28 llynedd, dywedodd Mrs Jones ei bod wedi codi ei gŵr o dafarn ger eu cartref, er mwyn gyrru i Abersoch. Roedd Jones yn feddw ac wedi ei gynhyrfu yn barod tua hanner awr wedi saith y noson honno.
Meddai Mrs Jones: “Nid oeddem yn ffraeo. Roedd yn dweud pethau wrthyf, ond nid oeddwn yn dweud dim.”
Tra roeddent yn mynd ar gyflymder o rhwng 60 a 70 mya, estynodd Jones drosodd a gafaelodd yn y llyw, dywedodd Mrs Jones wrth y llys, ac roedd hi'n ofnus, ac arafodd y car a gadawodd y lôn ar y cyffordd nesaf.
Wrth gael ei holi gan Dominic D'Souza, ar ran y diffynydd, dywedodd Mrs Jones mai alcohol oedd y rheswm i'w gŵr golli ei swydd ar Coronation Street, a cytunodd gyda'r bargyfreithiwr fod Jones wedi cael anhawster i gael gwaith, ac felly bu rhaid gwerthu llawer o eiddo er mwyn talu dyledion.
Dywedodd Mr D'Souza fod Jones wedi bod yn byw yn nghartref y cwpl gyda'i wraig, gan dramgwyddo'r amodau mechnïaeth, ac awgrymodd mai Mrs Jones oedd wedi cychwyn yr aduniad,
ond dywedodd Mrs Jones ei bod wedi dweud wrtho i fynd i rywle arall, ond ni hysbysodd yr heddlu am nad oedd eisiau creu mwy o helynt iddo.
Mae'r achos yn parhau heddiw.