Tân ar fynydd yn bygwth pentref

Bu dwsinau o bentrefwyr yn paratoi i adael eu cartrefi ddoe tra roedd tân yn llosgi ddim ond 50 troedfedd i ffwrdd. Roedd llawer wedi pacio er mwyn mynd i ffwrdd dros nos, a pharatoi i fynd â'u hanifeiliaid i le diogel, tra roedd y gwasaneth tân yn ymladd yn erbyn fflamau 10 troedfedd ar Fwlch Sychnant, ger Conwy.

Bu tua 60 o ddiffoddwyr tân yn ymdrechu drwy'r dydd i gadw'r tân rhag ymledu i bentref Dwygyfylchi.

Roedd y gwasaneth tân wedi cael eu galw at dân ar y mynydd tua chwech o'r gloch y bore, ond bu rhaid iddynt ddychwelyd pedair awr yn ddiweddarach i daclo un arall ochr arall y mynydd.

Mewn llai na awr roedd y tân wedi ymledu milltir i lawr y mynydd, at bentref Capelulo.

Caewyd y lôn ar ddau ben y bwlch, a rhybuddwyd y cyhoedd i gadw'n glir o'r tân, ac i gau eu ffenestri a chadw eu hanifeiliaid yn ddiogel.

Roedd llawer o bobl mewn oed yn bryderus wrth iddynt weld y fflamau'n difa grug ac eithin ac yn nesau at eu tai, ac roedd rhai wedi pacio er mwyn gallu gadael os oedd raid.

Oherwydd anhygyrchedd y pentref bu rhaid i'r gwasanaeth tân bwmpio dŵr o'r afon Gyrach tu ôl i'r dafarn Fairy Glen, a dywedodd Graham Roberts, landlord y dafarn fod y tân bron wrth gefn y dafarn.

Roedd Julian Thompson, warden gwarchodfa natur Pensychnant yn siomedig iawn fod y tân wedi difa gymaint o'r gwarchodfa, gan gynnwys cynefin i adar a dau fath o wyfyn prin.

Roedd y tân dan reolaeth erbyn diwedd y prynhawn, ond roedd criwiau'n dal ar y mynydd neithiwr i dampio'r lle.

Dywedodd yr uwch swyddog tân Gareth Wyn Griffiths fod y tân wedi difa tua milltir sgwâr, ac er roedd rhywfaint o le rhwng y fflamau a'r tai, roedd cynlluniau argyfwng mewn lle rhag angen i symud y pentrefwyr allan.