Jul 27 2011 by Tudur H. Jones, DPW West
Cyflwyno Cadair Wrecsam a’r Fro
CYFLWYNWYD Cadair Eisteddfod Wrecsam a’r Fro i’r yl mewn seremoni arbennig ar y maes ddoe.
Rhoddir y Gadair eleni gan Gwmni Teithio Seren Arian, Caernarfon a Wrecsam, a chyflwynwyd y wobr ariannol gan Gwmni Buddsoddiadau Pritchard Cymru.Š
Lluniwyd y gadiar gan Dilwyn Jones, Celfi Derw, gan ddefnyddio pedwar gwahanol goedyn: cedar, sycamorwydden, y Wenge Affricanaidd a’r dderwen Gymreig.Š
Daw’r pren derw o goeden ar gaeau Rhiwlas, Y Bala, lleoliad yr Eisteddfod yn 2009, ac mae patrwm naturiol yn y coedyn, sy’n rhedeg drwy ganol cefn y Gadair, gan gyfeirio at thema’r gerdd, Clawdd Terfyn.Š
Ar fan uchaf y Gadair, ceir olwyn pwll glo o bren Wenge, a bydd hwn i’w weld wrth i’r bardd eistedd.
Dywedodd Dilwyn Jones, gwneuthurwr a chynllunydd y Gadair eleni: “Mae’r cynllun yn cyfuno’r gwerinol a’r modern, gan greu Cadair dechnegol gain sy’n ddatblygiad o arbrofi creadigol gyda myfyrwyr Prifysgol Glyndwr.Š
“Y gobaith oedd torri cwys newydd o ran technegau er mwyn ennyn diddordeb seiri ifanc y dyfodol yng Nghymru.”
Cynhelir Seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 5 Awst am 4.30.