Llythyrau’r Herald Gorffennaf 27

Mynd ar ôl ei gwreiddiau

RWYF wedi cael pleser mawr yn ddiweddar, wrth archwilio teulu fy Nhad, i ffeindio fod yna erthygyl wedi bod yn Llanw Lln yn yr wythdegau canol hefyd yn holi am llawer o'r teulu, yn enwedig am Yncl Richard Rhoscrowther fel yr oeddem yn ei adnabod.

Bu fy nhad Titus Jones a'i gefnder Titus Hughes yn aros efo fo pan 'roedd yn Ficer Crunwear amser Census 1911, y ddau yn ddeg oed.

Mi roedd fy nhad mewn cysylltiad cyson efo fo ac mae gennyf lythyr yn 1926 yn trafod dwad i briodas fy rhieni .

Mae'r erthygyl hefyd yn sôn am Yncl Griffith, a gafodd ei glwyfo yn 1916 a marw chwech mis yn ddiweddarach ac wedi ei gladdu efo Taid a Nain.

Mae gennyf ei Soldiers Small Book a gafodd ei fam ar ôl ei farwolaeth .

Mae ein mab, Richard hefyd a diddordeb mawr yn hel achau y ddwy ochor o’r teulu.

Roedd teulu fy Mam yn forwyr bob un, ac yn Gapteiniad llong y rhan fwyaf ohonynt, ac mae Dyddiadur fy nhaid gennyf, wedi ei ddechrau pan aeth i’r môr yn 1886 nes y bu farw yn 1922 a mwy nag un llythyr iddo gan yr Hon F S Wynn – yr Arglwydd Newborough.

Sydna Lloyd Jones, Porthaethwy

Iâr fach yr ha’ ta gloyn byw?

MAE Marian, y wraig, yn dweud mai ‘cegiad’ a olygwyd gan jochiad. Felly llond ceg – dim mwy na dim llai.

Yn Nyffryn Nantlle iar fach yr haf oedd fy mam yn ddi-eithriad yn galw y gloyn byw. Mae ei ddweud heddiw yn dadlennu tymor o bleser atgofus – amser rhy bell yn ôl!

Ydi’r enw yn ddiethr felly dros y Fenai ym Môn?

Diolch am eich cyfraniadau o bob cyfeiriad!

Hefin a Marian Williams, Borthygest