Hacio yn yr Eisteddfod Genedlaethol

MAE’R gyfres materion cyfoes ar gyfer pobl ifanc, Hacio, yn parhau ar daith gyda rhifyn arbennig o Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam nos Fawrth.

Fe fydd eu gohebydd Lisa Haf yno yn holi croesdoriad eang o Gymry ifanc.

“Mae’r Eisteddfod ei hun, a Maes B yn arbennig, yn denu pobol ifanc o bob rhan o Gymru ac felly mae’n ffordd o gael barn amrywiol am faterion sy’n berthnasol a phwysig inni,” meddai’r cyflwynydd 24 oed, sy’n gweithio o bencadlys Hacio yng Nghaerdydd.

“Y llynedd, fe aethon ni â chriw o bobl ifanc leol o ardal y Steddfod ym Mlaenau Gwent i’r yl. Er eu bod nhw i gyd wedi cael addysg Gymraeg, doedden nhw erioed wedi bod mewn Steddfod. Roedd llawer ohonyn nhw o deuluoedd di-Gymraeg ac felly doedd y Steddfod erioed wedi bod yn rhan o’u bywydau. Roedd gweld y sîn ifanc Gymraeg yno’n agoriad llygad iddyn nhw.

“Dwi’n meddwl y bydd hi’n ddiddorol gweld ymateb Cymry ifanc ardal Wrecsam, ardal arall sydd â chanran gymharol isel o siaradwyr Cymraeg ond lle mae’r iaith hefyd ar dwf.”

Y galw i foderneiddio Gorsedd y Beirdd fydd un o bynciau trafod y rhifyn hwn o Hacio, a hynny ar drothwy cyfarfod pwysig o Orsedd y Beirdd i drafod ei dyfodol.

“Mae yna nifer gynyddol o bobl yn teimlo bod angen diwygio’r Orsedd yn llwyr. Mae yna bryder nad yw’n denu pobl ifanc am fod ganddi ddelwedd rhy hen ffasiwn,” ychwanegodd Lisa.

Un awgrym yw bod Gorsedd y Beirdd yn dileu’r gwahanol fathau o aelodaeth o fewn y corff sy’n cael eu dynodi gan liwiau’r gwisgoedd.

Ond fe fyddai hynny’n gryn gam gan fod yr holl drefn wedi’i seilio ar syniadau’r bardd a’r hynafiaethydd ecsentrig o’r 18fed ganrif, Iolo Morganwg. Fe fydd Hacio yn cael barn aelodau’r Orsedd ac Eisteddfodwyr.

Fe fydd y rhaglen hefyd yn cynnwys adroddiad yn edrych ar yr achosion cynyddol o lymffoma ymhlith pobl ifanc.

Related Tags