Jul 30 2011 by Tudur H. Jones, DPW West
YN ogystal â’r pecyn enillwyr arferol, a fydd yn cynnwys holl ganlyniadau’r dydd a hwyl a bwrlwm y maes, bydd Rhun ap Iorwerth yn arwain trafodaeth fywiog ar uchafbwyntiau’r dydd o stiwdio S4C ar y maes.
Mae Rhun yn edrych ymlaen at yr her newydd hon.
“Mi fydd yn brofiad difyr cael trafod beth sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y dydd efo fy ngwesteion,” meddai Rhun, sy’n byw yn Llangristiolus ym Môn.
“Mi fydd yn ychwanegiad gwerthfawr at yr hyn y byddwn ni’n ei gynnig o’r Eisteddfod eleni, a dwi’n gobeithio y bydd y gwylwyr yn mwynhau.”
Bydd y rhaglenni hefyd yn edrych yn ôl dros 150 o Eisteddfodau.
“Mi fydd ’na ymdeimlad o nostalgia wrth inni edrych yn ôl ar rai o Eisteddfodau’r gorffennol,” meddai Catrin Evans, un o gynhyrchwyr rhaglenni’r dydd.
“Os oes gan unrhyw un stori ddiddorol yn ymwneud â’r Eisteddfod, neu hen ffilm neu hen lun o’r yl mi fuasem ni’n falch iawn petaen nhw’n cysylltu â ni ar eisteddfod@bbc.co.uk.”