Pryderu yng Nghwmderi

DOES dim llawlyfr cynhwysfawr yn cael ei gyflwyno i ferched pan maen nhw’n cael plant. Mae profiadau, dewisiadau a chamgymeriadau bywyd yn diffinio perthynas mam gyda’i phlentyn ac yn Pobol y Cwm yr wythnos hon mae perthynas Gaynor Evans â’i merch Lois yn cyrraedd trobwynt.

Yn fam i ddau o feibion ei hun, mae Sharon Roberts sy’n chwarae Gaynor yn hollol glir am deimladau’r brifathrawes tuag at ei merch.

“O safbwynt Gaynor, mae’n hawdd, mae’n ei charu hi heb amheuaeth. Mae yna wrthdaro naturiol rhwng mam a merch yn ei harddegau; mae’n berthynas eithaf cymhleth. Ond ar ben hynny, mae’r ffaith bod Lois yn disgwyl babi yn cynnig cymaint mwy o gyfle i wrthdaro.

“Greddf Gaynor pan wnaeth hi ddarganfod am feichiogrwydd Lois gyntaf oedd annog iddi gael erthyliad. Doedd o ddim cymaint i wneud hefo cadw wyneb, meddwl am fywyd Lois oedd hi.”

Ers darganfod bod Lois yn disgwyl babi, mae Gaynor hefyd wedi bod yn eithaf cadarn gyda’i merch gan sicrhau ei bod yn astudio’n drwyadl ar gyfer ei harholiadau.

Meddai Sharon, a gafodd ei magu ym Mae Penrhyn ger Llandudno: “Mae popeth mae Gaynor wedi ei wneud yn dod o gariad. Ond dwi ddim yn credu bod Lois wedi gallu gweld hynny. Mae Lois yn ferch yn ei harddegau, yn hollol styfnig a phendant, ac yn meddwl bod ei mam jyst yn bod yn greulon ac yn hunanol.

“Roedd yna gyfnod tua hanner ffordd drwy’r beichiogrwydd lle’r oedd Gaynor ella yn trio gwthio’r syniad o fabwysiadu, ond bu raid iddi dderbyn nad oedd Lois isio hynny. Dwi’n meddwl bod Gaynor yn gobeithio y bydd Lois yn ymdopi efo’r babi newydd ac yn parhau efo’i haddysg.”

Wrth i’r enedigaeth agosáu, teimla Gaynor fod Lois yn anwybyddu’r digwyddiad mawr sy’n mynd i newid ei bywyd yn gyfan gwbl ac mae hyn yn peri cryn ofid i’r brifathrawes.

“Be’ sy’n gwneud y stori yn fwy diddorol a chymhleth yw’r ffaith fod Gaynor wedi erthylu babi yn ddiweddar achos ei bod hi’n sicr nad oedd hi eisiau mynd yn ôl i’r cyfnod yna o fagu babi eto.

“Roedd hi’n edrych ymlaen at dreulio cyfnod newydd o’i bywyd gyda Hywel. Ond ella mai magu plentyn y bydd hi yn y pen draw achos mae Lois yn gwrthod gwneud unrhyw baratoadau ar gyfer y babi.”

Related Tags