Dec 19 2008 Gan Daily Post
Sharon Morgan
Martha, Jac a Sianco, S4C, Dydd Nadolig, 9pm, Isdeitlau Cymraeg a Saesneg a sain ddisgrifio, English and Welsh subtitles
Hefyd, nos Fawrth, 30 Rhagfyr, 9.10pm www.s4c.co.uk/drama
MAE’R Nadolig yn gyfnod o ddathlu ac o ddod â’r teulu ynghyd. Ond, ynghanol yr holl firi a hwyl, mae cael pawb yn ôl dan yr un to'n creu tensiwn ac ambell ffrae.
Tensiwn teuluol rhwng dau frawd a chwaer yw cnewyllyn ffilm fawr S4C ar gyfer dydd Nadolig eleni, sef Martha, Jac a Sianco.
Mae’r ffilm yn addasiad o nofel lwyddiannus Caryl Lewis, o Geredigion. Creodd y nofel gryn gyffro ymysg darllenwyr Cymru pan gyhoeddwyd y gwaith yn 2004, gan fynd ymlaen wedyn i ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005.
Mae’r ffilm yn dilyn hanes Martha a’i dau frawd, Jac a Sianco, wrth i’r tri ymdrin â newidiadau yn eu bywydau ar ôl marwolaeth eu mam. Dyw’r tri ddim yn ffrindiau pennaf ac mae ewyllys ei mam yn creu cryn drafferth.
Mae Martha, y callaf o’r tri, yn wraig benderfynol ac amddiffynnol iawn, tra bod Jac yn ffermwr cadarn a chryf gyda’r fferm yn hawlio pob eiliad o’i fywyd – hynny yw, nes i Saesnes nwydus dynnu ei lygaid. Sianco yw’r brawd bach sy’n byw dan adain ei chwaer a llaw drom ei frawd.
Yr actor Ifan Huw Dafydd sydd yn chwarae Jac, tra bo Geraint Lewis yn camu i esgidiau Sianco. Wyneb cyfarwydd iawn sy’n portreadu Martha, y wraig fferm ddiffwdan, cymeriad y mae Sharon Morgan wedi ysu i’w chwarae ers tro.
“Rwy wedi dyheu am gyfle i chwarae’r math yma o gymeriad ers sbel. Ro’n i wir yn teimlo ei bod hi’n fraint cael actio Martha,” meddai Sharon, sy’n adnabyddus am ffilmiau fel Gadael Lenin, Yr Heliwr a Grand Slam.
“Rwy hefyd yn credu bod y ffilm ei hun yn bwysig iawn o safbwynt diwylliannol. Mae yma stori dda, afaelgar, yn ogystal â phortread cryf a sensitif o fywyd amaethyddol Cymru.
“Rwy’n falch o fod yn rhan o ffilm sy’n delio â bywydau pobl ganol oed, hefyd,” meddai Sharon, sydd ar hyn o bryd yn brysur yn ysgrifennu ei hunangofiant. “Mae dogn helaeth o brofiad bywyd yn gwneud pobl yn ddiddorol. Mae gennym ni straeon pwysig i’w hadrodd a’u rhannu.”
Yn ddiweddar, mae Sharon wedi ymddangos mewn cyfresi fel Belonging, Misdomer Murders, Mine All Mine a Torchwood – a oedd yn brofiad dipyn gwahanol i dreulio chwe wythnos mewn pâr o wellingtons wrth ffilmio Martha, Jac a Sianco ar fferm Cribor Fawr ym Mhont-siân.
“Fe wnes i fwynhau cael actio heb y dillad crand a’r sodlau uchel. Roedd rhyw ryddid yn hynny,” meddai. “O’n i’n gallu ishte yn y bêls, a maeddu ‘nillad i fel o’n i’n moyn, a do’dd dim ots. Ro’n i hefyd yn treulio bob awr o’r dydd gyda Huw a Geraint, felly roedden ni’n teimlo fel teulu go iawn.”
Er ei bod yn actores brofiadol, sut brofiad oedd ymgymryd â’r dasg o chwarae rhan Martha, cymeriad sy’n mynd ar daith llawn galar, caledi a hapusrwydd? “Yn bennaf, ro’n i’n ymwybodol o gyfrifoldeb aruthrol, a hefyd o fod yn lwcus ac o fod yn freintiedig iawn,” meddai. “Mae Martha’n rhan o ’mywyd i nawr. Mae hi’n dal i fod gyda fi, a bydd hi gyda fi am sbel. Dwi wedi’i chloi hi yn fy nghalon – dwi ond yn gobeithio i mi wneud cyfiawnder â hi.”
Sharon Morgan, one of Wales’ best- known actresses, loves getting right to the heart of the character she’s playing. And she had plenty
of opportunity to dig deep beneath the surface of down-to-earth
Martha in S4C's Christmas Day film, Martha, Jac a Sianco, an adaptation of Caryl Lewis’ acclaimed contemporary novel.