Home Teledu Cymru Teledu

Sawl tro trwstan o fewn y Teulu

Rhys ap Hywel ai wraig Rhian

Teulu, S4C, nos Sul, 9pm, Isdeitlau Cymraeg a Saesneg, Hefyd, nos Iau, 9.30pm gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin, English and Welsh subtitles www.s4c.co.uk/drama

MAEN nhw’n dweud y medrwch chi ddewis eich ffrindiau, ond pan ddaw hi at y teulu nid yw pethau mor hawdd. Un teulu sydd byth yn brin o broblemau, anghydweld a chyfrinachau yw'r Morgans, calon y gyfres ddrama Teulu, sy’n dychwelyd i S4C nos yfory.

Mae cast y gyfres, sy’n cael ei ffilmio ar leoliad yn Aberaeron, yn cynnwys enwau adnabyddus fel William Thomas a Mair Rowlands, sy’n chwarae rhannau Richard a Margaret Morgan, pâr cefnog a hoelion wyth y gymdeithas leol. Maent yn byw yn eu t crand, Bryncelyn, ac mae ganddynt dri o blant, Hywel, Llinos a Llr.

Yn y gyfres gyntaf, chwalwyd bywyd dedwydd y teulu gyda’r datguddiad mai Dr John, nid Richard Morgan, oedd tad Hywel. Cafwyd mwy o gyfrinachau hefyd, wrth i Hywel, sy’n cael ei bortreadu gan Geraint Morgan, gael perthynas gyda’i gydweithiwr a darpar wraig ei frawd, Dr Manon. 

Wedi i’r gyfres ddiwethaf orffen gyda’r gwylwyr ar bigau’r drain yn dilyn priodas Llr a Dr Manon a thrawiad Dr John, gallwn ddisgwyl digon o gyffro ym mywydau’r teulu Morgan.

Rhys ap Hywel sy’n chwarae rhan aderyn brith y teulu, Llr. Mae’r actor, a chwaraeodd gymeriad Jason yn Pobol y Cwm am nifer o flynyddoedd, yn credu bod Llr yn gwybod bod ei wraig newydd wedi cael perthynas â'i frawd.

“Mae Llr yn amau bod Manon a Hywel wedi cael perthynas, ac efallai ei fod e’n gwybod. Ond mae e’n berson penderfynol iawn ac yn sicr ddim am i’w frawd mawr gael y gorau ohono,” eglura Rhys, a fydd yn portreadu’r digrifwr Ronnie Williams yn y ffilm Ryan a Ronnie ar S4C yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Mewn bywyd go iawn, mae Rhys, 34, yn briod â'r actores Rhian Jones, sy’n chwarae rhan chwaer Llr, Llinos, yn y ddrama. Er bod Rhys yn mwynhau gweithio gyda’i wraig, mae trefnu rhywun i warchod eu pedwar plentyn yn gallu bod yn gur pen weithiau.

Y llynedd fe fu Rhys yn brysur ar daith o amgylch theatrau Cymru yn chwarae rhan Gwilym Brewys yng nghynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o’r ddrama Siwan gan Saunders Lewis. Ac er ei iddo fwynhau’r profiad o chwarae rhan glasurol, mae’n well ganddo chwarae cymeriadau ychydig mwy ysgafn a doniol.

Yn y gyfres newydd, mae Llr ar fin agor clwb newydd ar y maes carafannau mae’n rhedeg ar dir y teulu. Mae ef a Manon, sy’n cael ei chwarae gan Catrin Morgan, yn paratoi i symud o Fryncelyn i gartref newydd. Mae Llr ar ben ei ddigon, ond mae Manon a Hywel yn parhau i chwarae gyda thân, a does yr un gyfrinach yn saff am byth.

“Bydd llawer mwy o gyfrinachau’n cael eu datgelu yn y gyfres hon,” meddai Rhys a ddechreuodd actio pan yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth. “Ond sa i eisiau dweud gormod, bydd yn rhaid i chi wylio i ddarganfod mwy."

Family saga Teulu returns to S4C on Sunday.  Here, Rhys ap Hywel, who plays Llr Morgan, talks about his acting experiences.