Home Teledu Cymru Teledu

Bro a bywyd

Shan Cothi and Iolo Williams

Bro... Treforys, S4C, nos Fercher, 8.25pm, Isdeitlau Cymraeg a Saesneg, English and Welsh subtitles, www.s4c.co.uk/crwydrocymru

GYDA datblygiadau mawr yn y byd trafnidiaeth, mae teithio i bedwar ban byd wedi dod yn ail natur i nifer ohonom.

Gellir cyrraedd gwinllannoedd Ffrainc wedi ychydig dros awr ar long neu gerdded strydoedd prysur Efrog Newydd wedi llai na saith awr mewn awyren. Gellir hyd yn oed cyrraedd Seland Newydd mewn ychydig dros ddiwrnod.

Rydym felly’n gwbl gyfarwydd â thraethau Sbaen, bwrlwm Hong Kong a bwyd da'r Eidal. Ond sawl un ohonom sydd yn gyfarwydd â’n milltir sgwâr ein hunan?

Mewn cyfres newydd ar S4C, Bro, fe fydd y naturiaethwr Iolo Williams a’r gantores Shân Cothi yn ein tywys ar hyd a lled Cymru gan roi cyfle i ni ddod i adnabod ein gwlad a’i phobl yn well. 

Fe fydd y ddau’n teithio Cymru benbaladr gan ymweld â Nefyn ym Mhen Lln; tref fwyaf y gogledd, Wrecsam; tref y castell a’r caws, Caerffili; cartref Senedd-dy Owain Glyndr, Machynlleth; y pentref â’r enw hirfaith ym Môn, Llanfairpwllgwyngyll; a thref fwyaf Sir Drefaldwyn, Y Drenewydd. Ond fe fydd taith Iolo a Shân yn cychwyn yr wythnos hon yn Nhreforys, maestref o Abertawe.

“Mae gennym ni dreftadaeth naturiol ryfeddol yng Nghymru,” meddai Iolo, a ddaw’n wreiddiol o Lanwddyn ond sydd bellach yn byw yn Llandysili ger Y Drenewydd.

“Does dim lle gwell i weld amrywiaeth eang o gynefinoedd. Ond nid natur a thirwedd Cymru yw’r unig beth sydd yn arbennig am ein gwlad,” eglura Iolo, sydd wedi hen arfer â theithio Cymru ar gyfer ei raglen Crwydro.

Y tro hwn, y bobl yn hytrach na’r bywyd gwyllt fydd yn mynd â bryd Iolo. “Mae ein treftadaeth hanesyddol, ein pobl a’n cymunedau hefyd yn unigryw ac rwy’n falch o fod yn cyflwyno cyfres sy’n dathlu hyn,” meddai.

“Dwi’n cofio mynd ar daith gerdded fawr trwy Gymru ar ran apêl elusen S4C rai blynyddoedd yn ôl i godi arian ar gyfer y ddwy hosbis i blant yng Nghymru, T Hafan a Th Gobaith,” meddai Iolo, sydd hefyd wedi cyflwyno’r cyfresi poblogaidd Iolo yn Rwsia a Natur Cymru. “Wrth gerdded o’r gogledd i’r de dros gyfnod o bythefnos, roedd cwrdd â phobl yn y gwahanol fröydd yn anrhydedd. Roedd y synnwyr o gymuned mor gryf, y teimlad o berthyn mor bwysig â’r croeso heb ei ail.”

Fel Iolo, mae Shân hefyd wedi teithio ar hyd a lled Cymru yn sgil ei gwaith. Ond yn ystod y gyfres hon, mae’n edrych ymlaen at gael dod i adnabod y trigolion lleol yn well.

“Rwyf wedi teithio i bob cwr o Gymru i ganu mewn cyngherddau ac i ffilmio,” meddai.
“Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i gael ymweld â sioeau a digwyddiadau o bob math, ond mae nabod cymunedau yn hollol wahanol. Roeddwn yn falch o’r cyfle i gael golwg ychydig yn wahanol ar ein gwlad.”

Yn y rhaglen gyntaf fe fydd Iolo a Shân yn ymweld â Threforys, ardal sy’n enwog drwy’r byd am ei chôr meibion, Côr Orpheus Treforys. Mae’r ardal hefyd yn gartref i fand jazz arbennig, y Morriston Big Band.

Ond faint sy’n gwybod o le mae’r enw Treforys yn dod a pham fod y bobl leol yn cael eu galw’n Morriston monkeys? Faint sy’n sylweddoli fod kayakio yn gamp boblogaidd iawn ar yr afon leol, y Tawe, a bod un o’r capeli lleol, y Tabernacl, â thr mor dal a rhai eglwysi cadeiriol?
Bydd cyfle i ddod i adnabod Treforys a sawl bro arall yng Nghymru yn well yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i Iolo a Shân fynd ar grwydr.

In a new series on S4C, Bro, presenters Iolo Williams and Shân Cothi will be out and about in Wales to discover the characters and communities that make our nation what it is. They kick off  this week by visiting Morriston near Swansea.