Home Teledu Cymru Teledu

O Walia i Washington

Dewi Llwyd

Pawb a’i Farn, S4C, nos Fercher, 9pm, Isdeitlau Saesneg, English subtitles, www.s4c.co.uk/ffeithiol

YR wythnos hon mae strydoedd Washington DC yn fwrlwm o Gymreictod wrth i filoedd o bobl heidio i brifddinas America i brofi bywyd, celf, bwyd a diwylliant Cymreig fel rhan o yl Ddiwylliannol Ryngwladol Smithsonian 2009.

Mae’r yl flynyddol hon yn dathlu iaith, diwylliant a cherddoriaeth gan roi llwyfan i wledydd bychain, rhanbarthau, taleithiau neu thema arbennig. Eleni, Cymru yw prif ffocws y digwyddiad arbennig hwn. Dros ddeg diwrnod bydd dros gant o gwmnïau, artistiaid, cantorion, beirdd ac arbenigwyr o Gymru yn arddangos ac yn diddanu bron i filiwn o ymwelwyr gan gynnig gwir flas ar ein gwlad.

Nos Fercher, i gyd-fynd â’r yl, darlledir rhifyn arbennig o’r rhaglen drafod boblogaidd Pawb a’i Farn o Washington DC.

Un o’r gwesteion ar y rhaglen fydd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a gynrychiolodd Gymru yn y seremoni agoriadol ddydd Mercher diwethaf.

Hefyd ar y panel bydd Gareth Howell a ddaw’n wreiddiol o Gymru ond sy’n byw yn America ers sawl blwyddyn bellach ac yn gweithio i’r US Millenium Challenge Corporation. Fe fydd y newyddiadurwraig Alison Hill – a fu’n gweithio ar nifer o raglenni materion cyfoes yng Nghymru gan gynnwys Y Byd ar Bedwar, ac sydd bellach wedi sefydlu cwmni Seren Media Co allan yn America – hefyd yn ymuno â’r cyflwynydd Dewi Llwyd.

“Hwn fydd yr eildro i Pawb a’i Farn fynd i America, ond mi fydd y daith eleni’n dra gwahanol i’r gynta’,” eglura Dewi Llwyd. “Bryd hynny yn 2002 mi fuon ni yn Efrog Newydd, ac roedd hynny’n fuan iawn wedi’r ymosodiadau terfysgol ar y ddau dr yn Manhattan.”

Y tro hwn fe fydd y rhaglen yn cael ei darlledu o Washington, nid nepell o faes yr yl a’r lle y cafodd Barack Obama ei urddo’n Arlywydd ym mis Ionawr eleni. Yn ardal llawn hanes a gwleidyddiaeth, ni fydd y panel yn brin o bynciau i’w trafod.

“Eleni yn Washington DC mi fyddwn ni’n sicr o drafod natur a phwrpas yr yl gyda chynulleidfa o Gymry America yn ogystal â rhai sydd wedi mynd draw yno o Gymru er mwyn cymryd rhan yn yr yl,” meddai Dewi.

Fe fydd yr yl yn dathlu sawl agwedd ar Gymru gan gynnwys Cymru a’r Byd, Iaith a Llenyddiaeth, Diwydiant, Treftadaeth ac Arloesedd, Adeiladau a Thirluniau, Ecodwristiaeth a Hobïau, y Cartref a’r Gymuned, Dr, a Cherddoriaeth a Dawns.

“Gyda’r Prif Weinidog ar y panel, mi fydd yn gyfle ardderchog hefyd i sôn am ddelwedd Cymru yn America a dylanwad America ar weddill y byd chwe mis ar ôl i’r arlywydd Obama gymryd yr awenau,” meddai Dewi a fydd hefyd yn darlledu ei raglen radio o’r yl am 8.30am bore fory ar BBC Radio Cymru.

“Yn naturiol, mi rydan ni’n sicr o drafod yr argyfwng economaidd hefyd. Dwi’n edrych ’mlaen yn arw at gyflwyno’r rhaglen mewn cyd-destun  gwahanol,” meddai Dewi.

The streets of Washington DC will be buzzing with all things Welsh this week as the Smithsonian Folklife Festival celebrates the language, heritage and music of Wales. In a special edition, topical debate programme Pawb a’i Farn will be broadcast from the festival on Wednesday. Wales’ First Minister, Rhodri Morgan, will be on the panel along with Gareth Howell from the US Millennium Challenge Corporation and journalist Alison Hill who has established Seren Media Co  in the USA.